🥾⛰️ Rhobell Fawr (Cy)

(ENGLISH)

- Trosolwyg -

Mae Rhobell Fawr yn fynydd llai adnabyddus sy'n codi allan o Goedwig Coed y Brenin. Mae'n nodi cornel de-orllewinol cadwyn yr Arenig, gyda Cadair Idris, y Rhynogydd, a'r Aran yn ffurfio'r gorwel o'i amgylch.

 

- Gradd - 

Difficulty four out of six.

 

- Cofrestru -

✨✨✨I gofrestru, ewch i dudalen we ein clwb, ac o dan y tab ‘Cynhyrchion’ fe welwch ‘Hiking - Rhobell Fawr’. Ychwanegwch hwnnw at eich basged a'ch til. ✨✨✨

Bydd y cofrestru ar gael o brynhawn dydd Mercher (wedi i bawb fod allan o'r dosbarth).

Pris y tocyn yw £7 oherwydd ein bod yn mynd i ddefnyddio bws mini yn wreiddiol, er bod hwn wedi'i ganslo ers hynny o blaid trafnidiaeth gyhoeddus (ond yn rhy hwyr i newid y cynnyrch). Os oes gennych ddiddordeb, cofiwch brynu tocyn o hyd, a byddwn yn eich ad-dalu cyn gynted â phosibl.

Os byddwch yn methu'r cofrestriad, anfonwch e-bost atom i gael eich rhoi ar restr aros.



- Disgrifiad -

Cychwynnwn ger pentref Rhydymain, gan anelu tua’r gogledd ar hyd y ffyrdd gwledig, ac i mewn i’r dyffryn rhwng mynyddoedd Dduallt a Rhobell Fawr. Awn ni wedyn tua’r gorllewin, yn syth i fyny at gopa Rhobell Fawr. Ar ôl aros ar y brig, byddwn yn parhau tua’r gorllewin drwy’r rhostir, i lawr i bentref Llanfachreth. Yna byddwn yn cerdded ar hyd ffyrdd mewnol Coedwig Coed y Brenin, cyn dal y bws o Westy Tynygroes yn ôl i Aber. Dylem fod yn ôl erbyn 18:30.

Mae toiledau ar ddiwedd y llwybr ond nid ar y dechrau.

Mae'r hike tua 16km, gyda 874m o ddringo.

 

- Cyfarfodydd, Amserau, a Chludiant - 

Byddwn yn teithio ar fws. Byddwn yn cyfarfod yng ngorsaf fysiau 4 am 07:20.

Byddwn yn gadael Aberystwyth am 07:35, a dylem fod yn ôl tua 18:30 fan bellaf.

 

- Offer -

- Esgidiau cerdded*
- Côt dal dwr
- Trowsus dal dwr*
- O leiaf 4 haen o ddillad ar gyfer eich torso
- Het, sgarff, a menig
- Bag addas i gario popeth
- O leiaf 2.5 l o ddŵr
- Cinio a byrbrydau
- Meddyginiaeth (os oes angen)

*Os ydych am wirio addasrwydd eich esgidiau, neu fenthyg offer (e.e. trowsus gwrth-ddŵr), anfonwch e-bost atom ar club19@aber.ac.uk. Cysylltwch â ni o leiaf 24 awr cyn y digwyddiad.

More Events

🥾⛰️ Rhobell Fawr (Cy)
22nd February
Maes Parcio Lidl
Mae Rhobell Fawr yn fynydd llai adnabyddus sy'n codi allan o Goedwig Coed y Brenin. Mae'n nodi cornel de-orllewinol cadwyn yr Arenig, gyda Cadair Idris, y Rhynogydd, a'r Aran yn ffurfio'r gorwel o'i amgylch.
🥾⛰️ Rhobell Fawr (En)
22nd February
Bus Station 4
Rhobell Fawr is a lesser known mountain rising out of Coed y Brenin Forest. It marks the south-western corner of the Arenig range, with Cadair Idris, the Rhynogydd, and the Aran ranges forming the surrounding skyline.