Aberystwyth yn cael eu coroni fel pencampwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol 2024

Llongyfarchiadau enfawr i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth fuodd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol a gynhelir yn Abertawe y penwythnos hyn.

welsh
Rated 5/5 (1 person). Log in to rate.

Llongyfarchiadau enfawr i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth fuodd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Rhyng-golegol a gynhelir yn Abertawe y penwythnos hyn.

Maent yn dychwelyd i Aberystwyth gyda’r darian a’r teitl pencampwyr Eisteddfod Rhyng-golegol am y tro cyntaf ers 2015.

Yr Eisteddfod Rhyng-golegol ydi un o uchafbwyntiau cymdeithasol calendr myfyrwyr Cymraeg Cymru sy’n teithio o amgylch prifysgolion Cymru o gwmpas diwedd mis Chwefror bob blwyddyn. Mae’r myfyrwyr yn cynrychioli eu prifysgol mewn amrywiaeth o gystadlaethau llwyfan a gwaith cartref (ambell i gystadleuaeth eisteddfodol traddodiadol ac ambell gystadleuaeth hwyliog megis ‘bing bong’ ayyb) i ennill y mwyaf o farciau, a tarian yr Eisteddfod.

 

Dywedai Elain Gwynedd, Swyddog Materion Cymreig Undeb Aberystwyth a Llywydd UMCA

‘Mae hi wir yn fraint i ni’n Aberystwyth gael ein coroni fel pencampwyr yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni, a hithau’n flwyddyn arbennig wrth inni ddathlu hanner can mlynedd ers sefydlu UMCA.

‘Dw i mor falch o’r holl aelodau am eu hymroddiad a’u hangerdd dros ddod â’r darian yn ôl i’r coleg ger y lli.

Mi fuaswn i hefyd yn hoffi diolch i Arweinyddion a Chyfeilyddion Aelwyd Pantycelyn Dafydd, Mari, Fflur, Efa, Celt a Gwenno am eu holl waith caled wrth baratoi tuag at yr Eisteddfod.

Diolch o galon hefyd i Brifysgol Abertawe am drefnu’r Eisteddfod ac am y croeso cynnes, yn wir bydd hi’n un sy’n aros yn y cof am byth.

Mae UMCA yn edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol i Aberystwyth yn 2025, gan obeithio y byddwn yn cipio’r wobr unwaith yn rhagor!’

 

Llongyfarchiadau ir holl fyfyrwyr fuodd yn cynrychioli Aberystwyth eleni yn enwedig i’r canlynol am ddod ir brig yn rhai o brif gystadlaethau’r dydd:

Enillydd coron yr Eisteddfod – Rebecca Rees, Prifysgol Aberystwyth.

Enillydd cadair yr Eisteddfod – Nanw Maelor, Prifysgol Aberystwyth.

Enillydd y Fedal Gelf - Nia Williams, Prifysgol Aberystwyth

Enillydd y Fedal Wyddoniaeth - Fflur Edwards, Prifysgol Aberystwyth

 

Edrychwn ymlaen i groesawu’r Eisteddfod i Aberystwyth yn 2025.

Comments