Crynodeb o Ddigwyddiadau Pwysig: Darganfod Eich Cymuned Aber

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyma’r Swyddog Cyfleoedd Myfyrwyr, Tiff, a Llywydd UMCA a Swyddog Diwylliant Cymru, Elain yn edrych yn ôl dros ddigwyddiadau pwysig i galendr ein cymuned Aber:

 

SialensAber

10fed - 12fed Tachwedd 2023

Gwelwyd 10 tîm yn mynd yn benben â’i gilydd yn SialensAber mewn cwis, helfa drysor, mario kart, pong cwrw, pwl, digwyddiad dirgel, a mwy. Caed llond penwythnos o hwyl a gwelwyd tîm gwahanol yn cipio’r blaen bob dydd, ond yn y diwedd AberCrafts ddaeth i’r brig, a dau dîm o AberSnow (Powder to the People a Powder Puff Girls) yn cael ail ar y cyd! yn y Digwyddiad Dirgel gwelwyd aelod tîm o’r Math Magicians yn cystadlu ac ennill yn yr amser cyflymaf erioed yn SialensAber, ac felly coronwyd Chwaraewr Pwysicaf y penwythnos - Peta-Kay enillodd y mynediad am ddim i Superteams a sicrhau tîm i’w clwb - rhywbeth pawb yn dyheu amdano. Daeth y penwythnos i ben gyda Parti Pitsa Domino’s yn ogystal â chanmoliaeth uchel.

 

Gwyl y Cymdeithasau

25ain Tachwedd 2023

Gwyl y Cymdeithasau - Varsity ond i gymdeithasau! Eleni, fe welwyd y Gymdeithas Oruwchnaturiol a’r Gymdeithas Islamaidd yn teithio i Fangor am y dydd i redeg ychydig o ddigwyddiadau ar y cyd, hyrwyddo cymuned a chael hwyl arni!

 

 

Gwyl y Celfyddydau

4ydd - 8fed Rhagfyr 2023

 

Dathliad o’r celfyddydau a’r sectorau adlonnianol yn ein bywyd yw Gwyl y Celfyddydau! Bob blwyddyn, rydyn ni’n cynnig llond wythnos o gyfleoedd i fynegi eich ochr greadigol, ac eleni, fe gaed gweithdy creu cardiau Nadolig, gwneud Zine, paentio modelau, pantomeim, barddoniaeth, creu gyda ffelt, ac arddangosfa grefftau a sioe ddawnsio a gynhaliwyd gan eich Swyddog Cyfleoedd ac a drefnwyd gan K-Pop!  Roedd y llond wythnos o ddathlu popeth celfyddol ei natur yn llwyddiant tu hwnt!

 

 

GrymusoAber

Chwefror 2024

Fe lwyddom ni weithio ar y cyd gyda’r Women in Research Network i greu achrediad i gydnabod ymchwil a wneir gan aelodau staff benywaidd ac anneuaidd. Daeth ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol wedyn gyda’r holl enwebedigion gan ddefnyddio ein templed a’n logo fel y gall y gwaith pwysig hwn gyrraedd bellaf. Mynychodd rhyw 70 y Seremoni Gwobrwyo, a pha ffordd well o lansio Diwrnod Rhyngwladol y Menywod! Gwelodd #GrymusoAber lond mis o ddigwyddiadau gan grwpiau myfyrwyr a gwersi am ddim yn y Ganolfan Chwaraeon, yn ogystal â gweithio ar y cyd gyda’r Swyddfa Cynfyfyrwyr a’r Adran Gyrfaoedd.

 

Superteams

9fed - 11eg Chwefror a 16fed - 18fed Chwefror 2024

Fe oedd Superteams 2024 yn un bythgofiadwy heb os! Wedi 2 benwythnos, 56 o dimau, gwerthu allan mewn munudau, 20 digwyddiad, 2 barti gwyllt ar ôl a hylifau diddorol, fe welsom dimau yn cystadlu am gael eu coroni yn Bencampwyr Superteams 2024! Lansiodd y digwyddiadau eleni, fel erioed, gyda nofio, polo dwr, y prawf blîp a rhyfel rhaff ar y Gwener. Ar y Sadwrn, aeth y timau yn benben â’i gilydd mewn pêl-fasged, fwtsal, a rygbi cyffwrdd. Ar y Sul, prawf campfa, clwydi, milltir ar draws y campws, a’r digwyddiad dirgel drwgenwog.  Daeth sawl enw tîm clasurol yn ei ôl fel “Chicks with Sticks”, “Kinky Kooks”, “Team Win”, a “He Touched My Rim”. Cysondeb oedd thema benwythnos y Menywod, gyda’r 10 tîm uchaf yn aros yn gyfartal trwy gydol y penwythnos, gyda “Earps I did it again” yn cipio’r blaen yn gynnar a’i gadw. Roedd penwythnos y Dynion, fodd bynnag, i’r gwrthdro, gan weld enillydd gwahanol bob dydd! Yn y diwedd, “Back by Popular Demand” enillodd! Golygodd hyn mai aelodau ein timau pêl-droed ni enillodd y ddau benwythnos.

 

Eisteddfod Rhyng gol

2il Fawrth 2024

Ar yr 2il o Fawrth daeth UMCA yn fuddugol yn Eisteddfod Ryng-golegol 2024. Dyma'r tro cyntaf i Aberystwyth ennill y darian ers 2015 ac felly mae'r bwrlwm yn dal i barhau hyd heddiw.

Sgôr terfynol:

Aberystwyth 651

Bangor 634

Abertawe 200

Caerdydd 142

Manceinion 20

 

Varsity

16eg Mawrth 2024

Varsity 2024! Am ddiwrnod! Fel y Swyddog Cyfleoedd, ni fues i erioed mor falch o fod yn fyfyrwaig Aber! Nid un diwrnod yn unig mo Varsity, fe gychwynwyd arni gyda Saethyddiaeth wythnos gyfan cyn y diwrnod mawr.  Erbyn y diwrnod nesaf, roedd hi’n 4 - 4. Wrth gyrraedd diwrnod Varsity, oeddem yn colli gan un pwynt, ond wnaethom ni ddal ati trwy gydol y dydd a chadw pwysau ar fyfyrwyr a staff Bangor.  Daeth Bangor i Aberystwyth yn hy i gyd, ond eleni cawsant werth eu harian! Ein clybiau buddugol oedd: Saethyddiaeth, Hwylio, Pwl, Marchogaeth (yn parhau â llwyddiant o 11 mlynedd), Syrffio, Pêl fasged y Menywod, Beicio Mynyddoedd, Pêl foli’r Menywod a’r Dynion, Hoci’r Menywod, yr Harriers, Badminton x3, Pêl-droed y Menywod, Futsal, ac yn chwalu pob disgwyl yn y digwyddiad olaf: Pêl-droed y Dynion! Heb anghofio ein buddugoliaethau trwy ddiffyg enillydd clir: Cleddyfa y Menywod, Rygbi’r Dynion, a Phêl-droed Americanaidd! Llongyfarchiadau enfawr i bob un o’r grwpiau hyn am eu gwaith caled, eu hwymrwymiad rhagorol a’u gwydnwch yn wyneb casws Bangor.

Aber 20 - 21 Bangor oedd y sgôr terfynol! ond ni enillodd y fuddugoliaeth foesegol fel erioed yn gefnogwyr brwd dros ein timau!

 

Gellir darllen y crynodeb BUCS yma: Erthygl diwedd y flwyddyn BUCS (umaber.co.uk)