Yn ddiweddar, mae myfyrwyr a staff wedi gweithio ar cyd y blannu 420 o goed ifainc ar bwys cae chwarae Fferm Penglais.
Gan fanteisio ar lwyddiant gweithgarwch plannu coed y llynedd (gellir darllen mwy yma), aeth myfyrwyr ati i blannu mwy!
Yn ddiweddar, mae myfyrwyr a staff wedi gweithio ar cyd y blannu 420 o goed ifainc ar bwys cae chwarae Fferm Penglais. Cafodd y coed ifainc isod eu plannu i gefnogi bywyd gwyllt lleol:
- Mae’r Gollen yn darparu bwyd i famaliaid bach fel llygaid bychain a wiwerod yn ogystal â gwahanol adar.
- Mae’r Fedwen yn rhoi bwyd a lloches i dros 300 o rywogaethau o bryfed. Mae Cnocell y Coed ac adar eraill sy’n nythu mewn tyllau yn aml yn nythu yn y boncyff.
- Mae’r Griafolen â’i haeron coch llachar yn yr hydref yn ffynhonnell fwyd maethlon i adar, i’r Aderyn Du, Brych y Coed, y Tingoch, Coch Dan yr Adain, y Fronfraith, y Socan Lwyd a’r Gynffon Sidan.
- Mae’r Dderwen Goesynnog yn cefnogi mwy o fywyd nag unrhyw goeden frodorol, mae derwen aeddfed yn cefnogi miloedd o rywogaethau. Mae hefyd yn cynhyrchu un o bren caletaf a chryfaf ar y blaned.
- Mae blodau’r Ddraenen Wen yn gallu amrywio o wyn trawiadol, pinc tyner a choch ar brydiau a datblygu’n fwyar hirgrwn. Mae’r ffrwythau hwn yn fwyd i lawer o adar a phryfed bychain.
- Mae dail y Ddraenen Ddu yn ffynhonnell wych o fwyd i lindys a bydd adar yn aml yn nythu ymysg ei llwyn trwchus. Yn yr hydref, mae’r goeden yn cynhyrchu eirin tagu sydd hefyd yn fwyd i’r adar.
Roedd y profiad ymarferol yn cynnwys adennill hen polion a llawes coed, hyfforddi gwirfoddolwyr mewn technegau plannu effeithiol, a chasglu sbwriel i gadw’r safle yn lân ac yn daclus ar gyfer bywyd gwyllt.
Nod y fenter oedd grymuso cyfranogwyr gyda gwybodaeth ymarferol, gan feithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb cyffredin. Wrth iddyn nhw blannu glasbrennau, roedd myfyrwyr yn deall yr effaith hirdymor ar yr ecosystem leol a'r blaned.
Y tu hwnt i wirfoddoli, cryfhaodd y digwyddiad fondiau cymunedol ymhlith myfyrwyr, staff a sefydliadau partner, gan greu rhwydwaith sydd wedi ymrwymo i stiwardiaeth amgylcheddol. Amlygodd elfennau addysgol swyddogaeth goed mewn lliniaru newid hinsawdd, atal erydiad pridd, a chefnogi bioamrywiaeth.
Roedd y digwyddiad llwyddiannus yn gadael gwirfoddolwyr yn teimlo eu bod wedi cyflawni rhywbeth, gan osod sail ar gyfer diwrnodau gweithredu tebyg yn y dyfodol. Diolch yn fawr iawn i'r holl fynychwyr; mae eich cymorth chi wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl. Os hoffech gymryd rhan, cofrestrwch fel gwirfoddolwr yma i gael gwybod am gyfleoedd gwirfoddoli yn y dyfodol.
Diolch yn arbennig i Dîm Cynaliadwyedd Prifysgol Aberystwyth, y Tîm Llety, a Balfour Beatty am eu cefnogaeth, yn ogystal â Choed Cadw am y pecyn coed.
Diolch yn Fawr!