Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Ben Kinsella

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Dwi’n rhan o bwyllgor y Cymdeithasau Daearyddiaeth, a’r rôl rwyf wedi’i chynnal ers mis Mehefin 2022 yw Is-lywydd. 

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Trwy gydol fy ail flwyddyn yn Aberystwyth fe wnes i wir fwynhau dod yn rhan agos o’r Gymdeithas, y nosweithiau cymdeithasol oedd uchafbwynt fy wythnos, roedd y bobl y gwnes i integreiddio â nhw hefyd yn rhan o’r gymdeithas yn ffurfio grwp o ffrindiau yr oeddwn mor ddiolchgar amdano. Roedd yn ystod ein dathliadau Superteams Mens y llynedd pan feddyliais fy mod i wir eisiau parhau i fod yn rhan o'r gymdeithas anhygoel hon ac roeddwn i wir eisiau helpu eraill i gael yr un profiad os nad un gwell na mi, felly penderfynais redeg ar gyfer Is-lywydd yn etholiadau'r pwyllgor.

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Y peth gorau am fod ar y pwyllgor heb os nac oni bai yw cael cymryd rhan yn y nosweithiau cymdeithasol wythnosol fel cyfle i ryngweithio gyda holl aelodau’r gymdeithas. Mae cynllunio digwyddiadau cyffrous fel ein prydau Nadolig a haf hefyd wedi bod yn uchafbwynt personol. 

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Fel is-lywydd fy nghyfrifoldeb i oedd cymryd rhan flaenllaw wrth gynllunio ein prydau diwedd blwyddyn. Cynllunio a dosbarthu’r pryd Nadolig i’r gymdeithas yw fy her fwyaf hyd yn hyn fel is-lywydd. Yn ogystal â fy asesiadau cwrs a phrosiect traethawd hir roedd yn rhaid i mi sicrhau bod y dyddiad wedi'i archebu, a bod popeth wedi'i gymeradwyo a thalu amdano'n iawn. Cyfunwyd hyn hefyd â rhedeg y digwyddiad ei hun yn llwyddiannus lle gwelwyd dros 60 o aelodau’r gymdeithas yn mwynhau pryd o fwyd, cwis, a rhai gwobrau. 

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Heb os nac oni bai, dwi’n bod y profiad o fod yn is-lywydd wedi fy ngalluogi i fagu hyder mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, yn ogystal â fy hunanhyder fy hun ar gyfer cymryd rhan flaenllaw mewn cynllunio a threfnu. digwyddiadau cymdeithas. Dwi’n gwybod yn sicr y byddaf yn mynd â’r sgiliau hyn ymlaen yn fy mywyd ar ôl y brifysgol.

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

I unrhyw un sydd am sefyll y flwyddyn nesaf nid yn unig ar gyfer rôl is-lywydd ond ar gyfer unrhyw rôl pwyllgor, byddwn yn eich annog i achub pob eiliad. Mae’n fraint arbennig bod ar bwyllgor cymdeithasau gan i aelod y gymdeithas honno eich dewis chi i fod yn y rôl honno. Mwynhewch eich hun, heriwch eich hun, byddwch yn uchelgeisiol! Ni fyddwch yn difaru gwneud hynny, credwch chi fi, dim ond unwaith y cewch chi gyfle fel hwn!

 

 

Comments