Cwestiwn ac Ateb ar gyfer y Pwyllgor: Stef Dimitrova

ClubscommitteeElectionsSocietiesSportsSports ClubsTeamAberwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Pa bwyllgor wyt ti'n rhan ohono a pha rolau sydd wedi bod gen ti?

Dechreuais i fel Ysgrifenydd Cymdeithasol ar KPOP ac yna dod yn Llywydd ar KPOP. Dwi’n dal y rôl hon ers sawl blwyddyn (oherwydd y covid nid oedd llawer o bobl am sefyll, dydw’i ddim yn rhwystro neb, addo!). Dwi hefyd yn Drysorydd ar y Gymdeithas Gwyddbwyll. Dyma fy mlwyddyn olaf ar y Pwyllgor gan fy mod i'n graddi ym mis Medi. 

 

Beth wnaeth i ti fod eisiau sefyll am rôl ar y pwyllgor?

Bryd hynny, teimlais fod y gymdeithas yn rhoi llawer i fi – yn nhermau cyfeillgarwch, mentora, gweithgareddau hwylus, ac yn naturiol roeddwn i am gyfrannu ati yn fy nhro i. Mae wedi bod yn brofiad llonnol i gael cyfrannu a bod pobl yn ymddiried yn fy sgiliau arweinyddiaeth yn ystod y blynyddoedd. Gyda gwyddbwyll – roedd yn ffordd i fi gysylltu â phobl a chwarae’r gêm!

 

Beth oedd y rhan fwyaf pleserus o fod ar y pwyllgor?

Gweithio gyda phobl angerddol o’r un anian a ddaeth yn deulu i fi! Gyda llawer ohonyn nhw, credaf ein bod ni’n cyflawni ein gilydd – mae gennyf i bobl ar fy mhwyllgor sy’n meddwl am ffyrdd o wneud arwyddion bach caredig a sicrhau bod pawb yn teimlo’n gartrefol, a hefyd pobl sy’n tueddu i hoff o weinyddiaeth, ac mae angen y ddau i bwyllgor weithio! Mae ein gweld ni’n cydweithio i arwain ein haelodau ar deithiau ac i gystadlaethau a dod yn ôl gyda gwobrau wedi bod yn uchafbwynt! Ond hefyd, yr adegau tawel – mynd i wersi Iaith Coreeg, a gweld pobl yn dysgu, cymdeithasu ac yn gwneud ffrindiau, a chwerthin yn ystod nosweithiau ffilm.

 

Wyt ti’n gallu dweud wrthym am gyfnod lle’r oedd dy rôl yn heriol?

Mae aros yn diduedd ar adegau wedi bod yn anodd i fi, yn enwedig mewn dadleuon pwyllgor. Mae gennym ni i gyd berthynas dda ond yn naturiol, weithiau mae yna ffrae ac fel Llywydd mae rhaid i chi wneud yn siwr eich bod yn diduedd a blaenoriaethu llesiant yr aelodaeth. Mae rhoi newyddion drwg hefyd yn rhan o fy nghyfrifoldebau – yn aml yn ymwneud â’r tîm dawnsio (ee nid oedd un wedi llwyddo i basio clyweliad). Mewn achosion fel hyn, mae rhannu ‘busnes y gymdeithas’ a ‘busnes personol’ yn wahanol adrannau o gymorth mawr. Mae’n helpu i fi gadw ‘fy ngwaith i' yn y ‘gweithle’ hefyd!

 

Wyt ti’n teimlo bod perthyn i bwyllgor wedi bod yn fuddiol o ran dy baratoi di ar gyfer y dyfodol?

Heb os, mae’r rolau hon wedi gwella fy sgiliau arwain a helpu i fi feithrin fy sgiliau datrys problemau a datrys gwrthdaro. Trwy fy rôl fel Trysorydd dwi wedi dod yn fwy trefnus ac yn fwy cyfrifol tuag at fy arian personol. Dwi wedi dechrau gwerthfawrogi pan mae pobl o’m cwmpas yn gwneud gwaith da gydag un rhywbeth ac dwi bellach yn berson mwy diolchgar yn gyffredinol!

 

Pa gyngor fyddet t'n ei roi i aelod newydd o'r pwyllgor?

Byddwch yn garedig i chi’ch hun – mae bod ar bwyllgor yn ymrwymiad o’ch gwirfodd felly hyd yn oed os bydd pethau i'w gweld yn llwyd ar y funud, mi rydych chi’n uffernol o ddewr ac yn arbennig am wirfoddoli eich amser a’ch ymdrechion i gymdeithas eich bod chi’n angerddol amdani. Gwnewch yn siwr bod gennych chi amcanion clir ar gyfer eich amser ar y pwyllgor – beth ydych chi eisiau ei gyflawni neu gynnal yn eich rôl erbyn diwedd y flwyddyn (os ydych chi’n Drysorydd ee codi nifer X o arian) ac os ydych chi’n Llywydd (mynychu nifer X o gystadlaethau, gwneud yn siwr bod nifer X o ddigwyddiadau i bob aelod bob wythnos). Mae cael cynllun wythnosol yn helpu – er enghraifft, bob dydd Sul yn ddelfrydol byddaf i am anfon y cynllun wythnosol at bob aelod, creu’r digwyddiadau ar wefan yr UM a gorffen dysgu unrhyw ddawnsfeydd fy mod i'n eu dysgu yr wythnos hon.

 

 

Comments