Cyflwyno Elain: 24/25 Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

officerblogwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Enw a Rôl: 

Elain Gwynedd (hi/ei) – Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA

S’mai! Elain ‘dw i, a ‘dw i’n ôl am flwyddyn arall fel eich Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA yn Undeb Aberystwyth. Cefais fy magu ym Mhorthaethwy, Ynys Môn ond symudais yma i Aberystwyth ym mis Medi 2020 er mwyn astudio gradd yn y Gymraeg. ‘Dw i’n edrych ymlaen yn arw at flwyddyn lwyddiannus arall gyda UMCA, ac yn gyffrous iawn i groesawu’r Eisteddfod Ryng-golegol i’r Coleg ger y lli ym mis Mawrth 2025.

Rhowch ffaith ddiddorol neu randwm amdanoch chi’ch hun i ni: 

Fi yw’r Llywydd UMCA cyntaf i aros yn y rôl am ddwy flynedd yn olynol! 

Dewiswch dri gair sy’n eich disgrifio orau:

Angerddol. Gweithgar. Hapus.

Eich pryd olaf ar y ddaear... Beth sydd ar y fwydlen? A pha 3 o enwogion fyddai’n cael eu gwahodd?

Sweet and sour chicken, reis a salt and pepper chips plis, o Chan’s Felinheli hefo Manon Steffan Ros, Paul McCartney ac Aaron Ramsey.

Pa ddiddordeb sydd gennych chi?:

Canu ac actio. Chwaraeon (pêl-rwyd, pêl-droed, rygbi, padl-fyrddio). Darllen ac ysgrifennu creadigol.

Pam wnaethoch chi ddewis sefyll dros y rôl hon?:

Yn gyntaf oll, 'dw i'n eithriadol o frwdfrydig dros y Gymraeg, a'r hawl i dderbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly roedd ymgeisio am y rôl fel Swyddog Diwylliant Cymreig yr Undeb yn gam naturiol yn fy nhyb i. 'Dw i hefyd yn eithriadol o ddiolchgar am yr holl brofiadau 'dw i wedi eu cael drwy fod yn aelod o UMCA dros y bedair blynedd diwethaf, ac felly'n gobeithio rhoi'r un profiadau gwerthfawr i aelodau UMCA am yr ail dro eleni. 

At ba bethau ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf eleni?:

Heb os, yr Eisteddfod Ryng-golegol! Mae’r Eisteddfod yn teithio o amgylch Prifysgolion Cymru a felly mae cael bod yn Lywydd ar UMCA tra bod yr Eisteddfod yma’n brofiad hollol anhygoel. 

Pa achosion sydd o bwys i chi?:

  • Sicrhau fod y Gymraeg yn weledol o fewn yr Undeb.
  • Datblygu'r ddarpariaeth o fodiwlau cyfrwng Cymraeg.
  • Trefnu llu o ddigwyddiadau cyffrous i aelodau UMCA ar hyd y flwyddyn.
  • Denu mwy o ddysgwyr i ddigwyddiadau UMCA, megis Sŵn.

Pa le yw eich hoff le i ymlacio yn Aberystwyth?: 

Yr Hen Lew Du wrth gwrs!

Pe gallech chi fod yn anifail p’un fysech chi a pham?:

Pe bawn i'n anifail, mi fyswn i'n geffyl. 'Dw i wedi bod yn marchogaeth ers 'mod i oddeutu 6, a mae'r syniad o redeg yn wyllt mewn caeau yn apelio! 

A oes yna un peth y dylai pawb ei wneud/cael profiad ohono o leiaf unwaith mewn bywyd?: 

Ateb hawdd - Ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol! Dyna yw uchafbwynt fy mlwyddyn, bob blwyddyn!

Dych chi ar eich ffordd i’r gwaith ar fore Llun... pa gân fydd yn y cefndir?: 

Dal Dig - BUDDUG

Rhowch enghraifft o’ch hoff le i ymweld â fe a pham: 

‘Dw i wrth fy modd yn trafeilio ac un o fy hoff lefydd i ymweld ag yw Paris oherwydd ei bod yn ddinas hardd llawn diwylliant.

Comments