Dathlu Carreg Filltir: Achrediad Cynllun Cyffuriau ac Alcohol Cenedlaethol i Undeb Aberystwyth

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dathlu Carreg Filltir: Achrediad Cynllun Cyffuriau ac Alcohol Cenedlaethol i Undeb Aberystwyth

 

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod Undeb Aberystwyth wedi ennill Achrediad Cynllun Cyffuriau ac Alcohol Cenedlaethol mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth drwy Myfyrwyr yn Gweithredu dros Gynaladwyedd (SOS)! Mae’r gamp sylweddol hon yn dyst i’n hymrwymiad i hyrwyddo amgylchedd diogel a chefnogol i’n myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith mai ni yw’r Undeb Myfyrwyr a’r Brifysgol gyntaf i ennill yr achrediad hwn mewn blwyddyn yn unig.

 

Dyma ddiolch o waelod calon i holl staff Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol a’n partneriaid lleol yng Ngwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed sy’n gweithio ar y mentrau a gydnabyddir gan yr achrediad hwn, a hefyd i’r holl staff sydd wedi gweithio’n galed i roi ein cais at ei gilydd. Mae eich angerdd a’ch dyfalbarhad wedi creu argraff wirioneddol ar ein cymuned. 

 

Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i’n harchwilwyr myfyrwyr. Roedd eich mewnwelediad a’ch cyfranogiadau gwerthfawr yn hollbwysig yn y broses hon. Rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi’r amser a’r ymdrech rydych chi wedi’i roi i’r gwaith pwysig hwn.

 

Nid cydnabyddiaeth o’n hymdrechion yn unig mo’r achrediad hwn; dyma addewid i feithrin diwylliant o gyfrifoldeb a llesiant yn Aberystwyth. Gyda’n gilydd, rydym ar ein ffordd tuag at gampws a chymuned iachach i bawb.

Comments