Diweddariad ar adolygiad Rôl Swyddogion Undeb Aberystwyth

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Diweddariad ar adolygiad Rôl Swyddogion Undeb Aberystwyth. 

Fel rhan o'r ymgynghoriad presennol ar rolau swyddogion llawn amser o fewn Undeb y Myfyrwyr, rydym wedi penderfynu mynd i'r afael ag un agwedd benodol o’r adolygiad ar wahân. Daw'r penderfyniad cynnar hwn fel ymateb i bryderon a fynegwyd gan ein haelodau am ddyfodol rôl Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA. O ganlyniad i gefnogaeth glir ac unfrydol a fynegwyd yn ystod ein proses ymgynghori, mae'r Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi penderfynu parhau â'r trefniant presennol o gael Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA fel rôl sabothol llawn-amser mewn unrhyw gynnig a fydd yn mynd i bleidlais myfyrwyr. 

Dan arweiniad Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA gyda chefnogaeth gan bwyllgor UMCA a staff Undeb Aber, mae UMCA yn cynrychioli myfyrwyr ar prif bwyllgorau y Brifysgol, yn darparu calendr llawn gweithgareddau i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg, ac yn gweithio i sicrhau mynediad i addysg a chyfleoedd cyfrwng Cymraeg. Dathlodd UMCA ei hanner canmlwyddiant eleni ac rydym yn falch o'r cyfraniad cyfoethog y maent wedi'i wneud i ddiwylliant a bywyd Cymreig yn Aberystwyth a thu hwnt dros yr hanner canrif ddiwethaf. 

Fel yr Undeb Myfyrwyr cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu enw Cymraeg, cyflwyno polisi dwyieithog a gweithredu'n gwbl ddwyieithog, mae gan Undeb Aberystwyth hanes cryf o hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant yma yn Aber. Tanlinellir yr ymrwymiad hwn i'r iaith Gymraeg ymhellach gan ffaith fod y Bwrdd Ymddiriedolwyr wedi cadarnhau yr angen parhaol am rôl Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA fel blaenoriaeth cyn gynted â phosibl. 

Cam nesaf y broses fydd datblygu cynigion ar gyfer y tîm Swyddogion Llawn Amser ehangach, yn seiliedig ar fewnwelediadau pellach o'r ymgynghoriad. Bydd manylion y cynigion a fydd yn mynd i bleidlais myfyriwr yn cael eu cyhoeddi maes o law.