Ein haddewid: “darparu cyfleoedd i chi ddod o hyd i’ch cymuned Aber”

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

“Wythnos UMAber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.

(heb glywed am addewidion Undeb Aberystwyth i fyfyrwyr - cymerwch olwg yma)

 

Rydym am gynnig y cyfle i chi roi tro ar rywbeth newydd, mwynhau diddordebau, cymdeithasu a gwneud ffrindiau ystyrlon oes a bod yn rhan o rywbeth mwy.

Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “darparu cyfle i chi ddod o hyd i’ch cymuned Aber” y flwyddyn academaidd hon:

  • Yn ystod y flwyddyn academaidd 2023-2024, cymerodd dros HANNER o fyfyrwyr Aberystwyth ran yng ngwasanaethau, gweithgareddau a/neu grwpiau UMAber.
  • Mae 40% o fyfyrwyr Aber yn aelodau Tîm Aber; ein cymuned o 45 o glybiau chwaraeon a 101 o gymdeithasau.
  • Yn ystod tridiau ein Ffair y Glas, rhoddwyd croeso i 172 o stondinau i’r babell fawr a Chanolfan y Celfyddydau yn ystod Wythnos y Croeso (121 o stondinau clwb chwaraeon a chymdeithas a XX o elusennau/busnesau).
  • Cynhaliodd ein grwpiau 48 o sesiynau ‘Rhowch Gynnig Arni’ yn ystod cyfnod y Glas fis Medi a 15 o sesiynau ‘Rhowch Gynnig Arni’ yn ystod Reffreshars ddiwedd Ionawr. Rhestrwyd pob un o’r rhain ar adran ddigwyddiadau gwefan UMAber.
  • Trwy gydol y flwyddyn, mae ein Calendr Digwyddiadau UMAber ar y wefan wedi rhestri 438 digwyddiad a drefnwyd gan 56 o’n grwpiau myfyrwyr.
  • Yn rhan o’n rhaglen Helo Aber o ddigwyddiadau croesawu bu sesiynau Cwrdd a Chyfarch oedd yn gyfle i fyfyrwyr newydd gwrdd â myfyrwyr o’r un anian: daeth 296 myfyriwr/wraig i un o’n 10 sesiwn cwrdd a chyfarch yn ystod cyfnod y Glas fis Medi a daeth 68 myfyriwr/wraig i un o’r 10 sesiwn a gynhaliwyd yn ystod Reffreshars ddiwedd Ionawr.
  • Caed 528 o enwebiadau ar gyfer y Gwobrau Chwaraeon a Chymdeithasau eleni: yn dathlu’r gymuned amrywiol o grwpiau myfyrwyr yma yn Aberystwyth.

Crynodeb o Ddigwyddiadau Pwysig: Darganfod Eich Cymuned Aber (umaber.co.uk)

Erthygl Diwedd Blwyddyn BUCS (umaber.co.uk)

 

#UMAberynDathlu #AberSUCelebrates