Ein haddewid: “i’ch helpu i fagu eich sgiliau a’ch profiadau”

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

“Wythnos UMAber yn Dathlu” yw’r wythnos hon - y cyfle GORAU un i ddathlu popeth sy’n ymwneud â myfyrwyr Aber a byddwn yn dathlu’r rhain fesul Addewid Undeb Aberystwyth.

(heb glywed am addewidion Undeb Aberystwyth i fyfyrwyr - cymerwch olwg yma)

 

Rydym am i’n myfyrwyr ymfalchïo yn yr hyn maent yn ei gyflawni a bod ganddynt ystod bywiog o sgiliau a phrofiadau i deimlo’n ddigon hyderus i fynd y neu Blaenau ar eu siwrne nesaf, ble bynnag y bo.

Heddiw byddwn ni’n edrych yn ôl dros rai ffyrdd rydyn ni wedi “helpu i fagu eich sgiliau a’ch profiadau” y flwyddyn academaidd hon:

  • Rhwng Mehefin 2023 ac Ebrill 2024 mae 194 o fyfyrwyr wedi cofrestru i wirfoddoli trwy ein llwyfan wirfoddoli sydd ag ystod o gyfleoedd gwirfoddol ac mae’r myfyrwyr hyn yn gweithio tuag at y Gwobr Aber; gyda 8,823 o oriau o wirfoddoli wedi’u cofnodi hyd yn hyn y flwyddyn academaidd hon.
  • Etholwyd 250 o Gynrychiolwyr Academaidd ac mae 82% o’r rhain wedi mynychu hyfforddiant.
  • Cynhaliwyd y sesiwn rhwydweithio gyntaf rhwng Cynrychiolwyr Academaidd a staff lle daeth 40.
  • Eleni rydyn ni wedi darparu ystod o leoliadau gwaith i 10 o fyfyrwyr Aber a graddedigion diweddar trwy gynllun ABERforward y Brifysgol.
  • Rydyn ni hefyd wedi cynnal 4 lleoliad profiad gwaith hyblyg dros gyfnod byr trwy gynllun Cymorth i Baratoi am Waith y Brifysgol.

 

#UMAberynDathlu #AberSUCelebrates