Erthygl crynhoi 23 - 24 Elain

welsh

Byrlymus, bythgofiadwy a buddugoliaethus.

Dyma dri gair sy’n crisialu fy mlwyddyn gyntaf fel Swyddog Diwylliant Cymreig a Llywydd UMCA. Bu i nifer fy rhybuddio wrth imi gychwyn yn y swydd ym mis Gorffennaf 2023 y byddai amser yn hedfan, a dyma fi bellach ym mis Mehefin yn hel atgofion am y flwyddyn. O gynnal ymgyrch Ble Mae’r Gymraeg yng nghynhadledd UCM DU (NUS UK) i drefnu dathliadau UMCA 50, rwyf wedi cael profiadau arbennig yn rhinwedd y swydd, a mi fyddai’n amhosibl imi eu crybwyll nhw i gyd yn yr erthygl hon, felly rwyf am geisio crynhoi tri uchafbwynt sydd yn sefyll allan imi.

Heb os, un o’r prif uchafbwyntiau imi oedd yr Eisteddfod Ryng-golegol ym mis Mawrth yn Abertawe. Roedd safon y cystadlu ar y llwyfan yn eithriadol o uchel, a bu i UMCA hefyd serennu yn yr adran waith cartref gan gipio pedair prif wobr allan o chwech, sef Y Goron, Y Gadair, Y Fedal Gelf a’r Fedal Wyddoniaeth. I goroni’r cyfan llwyddodd UMCA i ennill tarian yr Eisteddfod Ryng-golegol a hynny am y tro cyntaf ers 2015! Amserol iawn gan ystyried bydd yr Eisteddfod yn Aberystwyth fis Mawrth 2025.

Uchafbwynt arall imi oedd cyflwyno polisi i Gyfarfod Cyffredinol yr Undeb Myfyrwyr er mwyn newid enw’r Undeb i un uniaith Gymraeg. Roedd yn uchelgais gennyf ers imi ddechrau yn y rôl, a hynny er mwyn ceisio chwalu’r stigma mai UMCA yw’r Undeb Gymraeg, ac yna’r Undeb ehangach yw’r Undeb Saesneg. Rydym fel Undeb Myfyrwyr yn ymfalchïo yn ein hendid Cymraeg, a pha ffordd well o adlewyrchu hynny na chael enw uniaith Gymraeg.

Yn olaf, roedd dathlu pen-blwydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth yn hanner cant yn sicr yn brofiad bythgofiadwy imi fel Llywydd. Roedd y dathlu ar y 15fed o Fehefin yn cynnwys cinio i’r cyn-lywyddion yn Yr Hen Lew Du, teithiau tywys o amgylch Pantycelyn, sesiwn holi ac ateb gyda chyn-lywyddion UMCA sef Dyfrig Berry, Aled Siôn, Emyr-Wyn Francis, Meilyr Emrys a Mared Ifan, ac yna i gloi’r dathlu Gwyl UMCA 50 gyda bandiau sy’n gysylltiedig ag UMCA, megis Mynediad am Ddim a oedd hefyd yn dathlu’r  hanner cant, Dros Dro, Cyn Cwsg a Mei Emrys.

Rwy’n edrych ymlaen yn arw am flwyddyn lwyddiannus arall gyda UMCA, ac yn gobeithio cipio’r darian Ryng-golegol am yr ail flwyddyn yn olynol, a hynny yma yn Aberystwyth.