Erthygl crynhoi 23 - 24 Helen

welsh

O achos y gorwynt o flwyddyn a fu, yn sicr, bydd yna bethau fy mod i’n colli yn y crynodeb hwn. Dywedodd pawb wrtha’ i y byddai’n mynd yn glou a dyma fis Mehefin a finnau yn crynhoi un o’r blynyddoedd mwyaf arbennig a ges i yn Aber. O dymor y cynadleddau lle cawsom ni rwydweithio gyda swyddogion llawn amser eraill i ddod â’r flwyddyn i ben yn dathlu’r Mis Balchder yn sialcio y grisiau. Fy ffocws eleni oedd gwella’r gwasanaethau llesiant i fyfyrwyr, yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad i’r ifainc yn sgil y mudiad Charlie Asked For Help, cefnogi goroeswyr, a dathlu ein cymuned.

Roedd yn bwysig i fi barhau â gwaith Cam ar yr ymgyrch ‘Yma a Thraws’ a chydweithio gyda’n cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth i gynllunio ymgyrchoedd oedd yn amrywio o’r argyfwng costau byw i’r Wythnos Sgyrsiau Cenedlaethol.

Anodd fyddai rhoi pob un dim yn hwn, felly dyma grynhoi’r tri pheth a wnes i eleni fy mod i’n ymfalchïo ynddynt yn arbennig:

  • Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod!  Ein cydweithrediad ar draws y campws a’r gymuned am y diwrnod hwn, gan nodi 100 mlynedd o Ddeiseb Menywod Cymru dros Heddwch a’i hysbysebu yng Nghanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol fel rhan o Grymuso Aber, y cefais y fraint o weithio gyda Tiff arno. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd daeth y maer lleol i fynychu ein Gorymdaith Adennill y Nos tra ein bod bron i nodi 50 mlynedd o Adennill y Nos yn y DU. A rhywbeth gwirioneddol arbennig oedd ein gwaith gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Menywod yn creu gwobr gwelededd yn cydnabod menywod a staff nad ydynt yn cydymffurfio â rhywedd mewn ymchwil yn ein prifysgol.
  • Dwi wedi bod yn rhan fawr o’r gwaith y mae'r brifysgol a'r undeb wedi bod yn ei wneud o ran cefnogi goroeswyr a rhoi'r math cywir o ddarpariaeth ynghylch caniatâd. O gyflwyno modiwl caniatâd ar gyfer yr wythnos SHAG, cyfrannu at y polisi trais a chamymddwyn rhywiol, a newid y cod ymddygiad i glybiau a chymdeithasau. Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn hir ei argraff.
  • Yn dilyn ymgyrch Charlie Asked for Help, rydyn ni wedi llwyddo i newid y ffurflen atgyfeirio myfyrwyr i’w gwneud yn fyrrach ac yn fwy hygyrch, dwi wedi ysgrifennu ar gyfer gwefan yr Undeb, wedi adeiladu’r llyfrdy i goffau Charlie, wedi cyd-gadeirio’r grwp Llywio Hunanladdiad Diogelach, cyfrannu at y Strategaeth Iechyd a Lles, a gweithio gydag UCM Cymru ar eu gwaith ymgynghori hunanladdiad ieuenctid.

Dyma edrych ymlaen at weld beth wnaiff Emily a dymuno’r gorau iddi!