Ffioedd Dysgu 24/25

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ar y 6ed o Chwefror 2024, cododd Llywodraeth Cymru y cap ar ffioedd dysgu i Is-raddedigion Llawn Amser o £9,000 i £9,250 gan olygu bod codi ffioedd yn cydymffurfio â thelerau ac amodau Prifysgolion Cymru. Cyhoeddwyd hefyd y bydd mwy o gymorth cynnal ar gael i fyfyrwyr newydd a’r rheini sy’n parhau â chwrs a ddechreuodd ar neu ar ôl Awst 1, 2018.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cydnabod bod Prifysgolion Cymru yn wynebu pwysau a heriau ariannol cynyddol ac rydym yn deall  penderfyniad y Brifysgol i godi ffioedd dysgu yn ôl cap newydd y Llywodraeth. O ystyried yn bennaf effaith y cynnydd mewn costau byw a bod ffioedd wedi aros yr un yng Nghymru ers 2011 er eu bod wedi codi yng ngweddill y DU. 

Rydym yn ymwybodol bod bywyd myfyrwyr ar ei ddrutaf erioed ac y bydd cynnydd mewn ffioedd dysgu yn cael effaith ar ein haelodau. Gan hynny, ni fyddwn ond yn cefnogi codi ffioedd lle bo cynnydd cyfartal yn y benthyciadau ar gael i unrhyw fyfyrwyr a effeithir ganddo. Yn ogystal, rydym wedi gofyn i Brifysgol Aberystwyth gadw incwm ychwanegol y ffioedd ar wahân i’w wario ar brosiectau a gweithgareddau sydd o fudd i’r profiad myfyrwyr yn hytrach na thalu am gynnydd mewn costau cyffredin neu bwysau cyllid.  

Comments