Llwyddiant Ffair Llesiant a Gwirfoddoli Undeb Aber

Ar Hydref 10fed, fe wnaeth Undeb Aber gynnal Ffair Llesiant a Gwirfoddoli i ddathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl ac fe oedd yn llwyddiant tu hwnt.

CyngorGwirfoddoliLlesiantwelsh
No ratings yet. Log in to rate.

Ar Hydref 10fed, fe wnaeth Undeb Aber gynnal Ffair Llesiant a Gwirfoddoli i ddathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl ac fe oedd yn llwyddiant tu hwnt. Nod y ffair oedd gwella profiad myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle daeth y digwyddiad hwn â gwahanol sefydliadau, prosiectau gwirfoddol a rhwydweithiau cefnogaeth ynghyd a phob un yn ymwneud â llesiant.

Roedd y ffair yn gyfle arbennig i fyfyrwyr ddod ar draws yr amryw o adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael. Roedd hefyd yn achlysur i fyfyrwyr siarad gyda chynrychiolwyr o wahanol sefydliadau, gyda phob un yn cynnig ffyrdd unigryw o gymryd rhan, cefnogi iechyd meddwl, a chyfrannu tuag at y gymuned.
 
Hoffem ni ddiolch o waelod calon i’r holl sefydliadau a gymerodd ran yn y ffair. Roedd eich presenoldeb a’ch cyfraniadau yn hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant y digwyddiad hwn. Dyma restr o’r sefydliadau a ddaeth i’r rheini nad oedd yn gallu dod:

Sefydliadau Lleol/Cenedlaethol

•    Tîm Iechyd Ieuenctid  - Hywel Dda
•    Addysg Ofal Iechyd
•    Girlguiding Ardal Ystwyth
•    Clwb Rhedeg yn y Parc Aberystwyth
•    DASH Ceredigion
•    Gwasanaeth Cam-Drin Domestig Gorllewin Cymru
•    Age Cymru
•    Ambiwlans Awyr Cymru
•    Hyb Cymunedol y Borth
•    Myf Cymru
•    Chwaraeon yr Urdd Ceredigion
•    The Joyful Life Guide
•    Cyngor Canolbarth Cymru
•    Canolfan Fethodistaidd St Paul
•    Archifau Ceredigion
•    Rhoi’r Gorau i Ysmygu / Ymysgu a Lles – Hwyl dda
•    Rhandir Gardd 2il Ryfel Byd Aber
•    Mind Aberystwyth
•    Prosiect TrACE Prifysgol Ystyriol o Drawma – Prifysgol Aber
•    Adferiad, Lloches Ceredigion
•    Credu
•    Eglwys y Drindod Sanctaidd
•    HAHAV
•    Theatr Hikinx
•    Prosiect yr Hen Goleg
•    Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed
•    Podlediad Over the Falls
•    Sefydliad DPJ

Grwpiau Myfyrwyr
•    MSAGM 
•    Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth
•    Ambiwlans St John
•    Y Llinell Nos

Nid rhwydweithio yn unig oedd bwriad y digwyddiad hwn; oedd meithrin cysylltiadau, ennill sgiliau, a darganfod rhywbeth newydd i danio’r angerdd yr un mor bwysig. P’un ai a ydych chi eisiau gwirfoddoli, ceisio cymorth, neu mai dim ond eisiau gweld beth sydd i’w gael, oedd y Ffair Llesiant a Gwirfoddoli yn arddangosfa o’r cyfoeth o gyfleoedd sydd gan Aberystwyth i’w cynnig.

Rydyn ni’n annog ein holl fyfyrwyr i fanteisio i’r eithaf ar yr holl adnoddau hyn a dod yn rhan. Cadwch olwg am ragor o ddigwyddiadau a chyfleoedd i fod yn rhan o’r sefydliadau anhygoel hyn trwy gydol y flwyddyn! Mae modd i chi ddysgu mwy ynghylch beth sydd i’w cael trwy ein Tudalen Wirfoddoli yma ac os bydd arnoch chi angen cyngor ar ba gymorth sydd ar gael, cysylltwch â’n Gwasanaeth Ymgynghori yma
 

Comments