Nôl i Aber 2024

cymraegwelsh

Mae i ‘Nôl i Aber’, digwyddiad blynyddol Undeb Aber, le arbennig wrth galon fyfyrwyr a chyn-fyfyrwyr, yn pryd i ailuno, hiraethu, a dathlu.

 

Eleni, cynhaliwyd Nôl i Aber ddydd Sadwrn 26ain Hydref, lle gwelwyd 5 clwb a’u cyn-fyfyrwyr yn dod ynghyd yng ngwahanol leoliadau ar draws y campws a’r dref i ail-fyw eu buddugoliaethau a chreu atgofion newydd gyda’i gilydd.

 

Aeth Badminton ati i gynnal cystadleuaeth hwyliog ond cystadleuol dros benwythnos Calan Gaeaf a ddenodd nifer fawr o aelodau hen a newydd fel ei gilydd.

“Wnaethom ni gynnal twrnamaint Calan Gaeaf, gyda phawb yn cael hwyl arni yn gwisgo lan a chwarae badminton! Aeth dau dîm yn benben â’i gilydd, a’r un a enillodd y pwyntiau uchaf oedd enillydd y dwrnamaint. Tîm 1 aeth â hi gyda 521 yn erbyn Tîm 2 a’i 505 pwynt er oedd pob gêm o safon da ac yn agos!” – Alice Leroy, Ysgrifenyddes Badminton 24/25

 

 

Wnaeth y Tarannau gynnal sesiwn styntio yn y Neuadd Chwaraeon, gyda phryd ad-uno yn y dref wedyn. Pleser oedd gweld cymaint o’r hen ferched yn dychwelyd ac yn cynnig eu gwybodaeth i’r aelodau newydd i’w helpu i feithrin eu sgiliau a’u styntio.

 

Trefnodd Futsal ei ddigwyddiad Nôl i Aber yng Nghawell y Chwaraeon a gwelwyd nifer fawr yn dod! Fel clwb gweddol newydd, roedd yn arbennig gweld bod eisoes cysylltiad cryf gyda’i gyn-aelodau trwy’r digwyddiad hwn.

Mi oedd Nôl i Aber yn anhygoel! Cawsom ni amser da ar chwarae Futsal ac yn hel atgofion o’r hen ddyddiau hen fu gyda’r cyn-aelodau pan oedden nhwythau yn y clwb. At ei gilydd, roedd yn amser braf ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gynnal digwyddiad arall y flwyddyn nesaf! - Pwyllgor Futsal 24/25

 

Cafodd Dance Sport a Ffrisbi Eithafol hwyl ar ddathlu eu haduniadau trwy gymryd rhan yn Nôl i Aber.

 

Mae cynnal Nôl i Aber bob blwyddyn yn meithrin teimlad o undod ar draws cenedlaethau o Glybiau a Chymdeithasau gan gynnig golwg i gyn-fyfyrwyr ar sut argraff y maent wedi’i chael ar eu grwpiau. Hoffai Undeb Aber fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Swyddfa Gyn-fyfyrwyr DARO a Chronfa Aber am ariannu’r digwyddiad hwn ar y cyd gyda ni.
 

Comments