Sbotolau ar Cleo - Pennaeth Chyfathrebu ac Ymgysylltu

welsh

Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!


Cleo - Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu (swydd ranedig). Mae fy rôl yn ymwneud â chydlynu portffolio cyfathrebu Undeb Aber ee: y cyfryngau cymdeithasol, y wefan, dylunio a mwy.

 

Ble mae dy gartref?

O Dde Cymru yn wreiddiol ‘dwi ond bellach yn byw tuag awr i ffwrdd o Aber.

 

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Byddai’n dod yn ddewis o un ai quesadillas gyda Pico de Gallo neu fwyd Tsieineaidd (ga’ i’r ddau?!)

 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Dwi wrth fy modd yn teithio a gweld llefydd newydd, coginio a threulio amser gyda fy ffrindiau a’m teulu. Dwi hefyd wrth fy modd yn y awyr agored yn cerdded ac ati.

 

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?

Dwi’n caru bod pob dydd yn wahanol i’r llall, a Thîm Undeb Aber.

Fe wyddwn fy mod i’n dwlu ar weithio mewn Undeb Myfyrwyr ers fy nghyfnod yn UM Abertawe, felly ar ôl y Brifysgol o’n i’n hapus iawn o weld y cyfle hwn gydag Undeb Aber wrth chwilio am waith. 

 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Dwi’n credu y byswn i’n dal i weithio mewn marchnata, efallai mewn maes blogio teithio neu farchnata awyr agored. Dwi wrth fy modd yn coginio/pobi felly o bosib y byswn i’n perchen ar gaffi bach hyd yn oed. 

 

Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?

Tra bues i’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe, o’n i’n gweithio fel Cynorthwyydd Hyrwyddo i’r Undeb. Do’n i erioed yn rhan o unrhyw glwb na chymdeithas yn y Brifysgol, ond dwi’n difaru braidd wedi i fi weithio yma a gweld y gymuned sydd ganddynt!