Sbotolau ar Eleri - Pennaeth Chyfathrebu ac Ymgysylltu

welsh
No ratings yet. Log in to rate.

Dyma fanteisio ar y cyfle i gyflwyno ein tîm staff Undeb Aber eto dros yr ychydig wythnosau nesaf!


Sbotolau ar Eleri Wyn, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

 

Beth yw dy rôl yn Undeb Aber?

Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu – ar hyn o bryd dwi’n gweithio’n rhan amser ac yn ffodus o rannu’r swydd gyda Cleo (y person gorau y gallwn i obeithio rhannu swydd gyda hi erioed). Mae rhan o’m rôl yn cynnwys gofalu am ein gwefan, brandio, cyfieithu, cyfathrebu cyn ac yn ystod digwyddiadau pwysig a dathlu llwyddiannau ac effeithiau.

 

Ble mae dy gartref?

Bydd fy nghartref bob amser ar y fferm yng nghanolbarth Cymru - ond rydw i nawr yn gwneud ein ty yng Ngheredigion yn gartref gyda fy nheulu bach.

 

Dyma dy bryd bwyd olaf ar y ddaear... beth sydd ar y fwydlen?

Cinio cig oen (ond rhaid iddo fod yn gig oen o adref)

 

Y tu allan i'r gwaith, beth wyt ti’n ei wneud yn dy amser hamdden neu hobïau?

Fy hoff beth i’w wneud y tu allan i’r gwaith yw treulio amser gyda fy nheulu, yn enwedig gyda fy mhlant Harri a Casi.

Dwi hefyd wrth fy modd ymweld â theulu a ffrindiau, mynd am dro, canu gyda’r côr lleol a bydda’ i’n tynnu lluniau o bob un dim (ac yn brin o le i gadw lluniau ar fy ffôn o hyd).

Dwi hefyd yn gwirfoddoli ychydig o fy amser rhydd i helpu’r tîm pêl-droed o dan 6 lleol a’r grŵp babi lleol yn ein pentref unwaith yr wythnos.  

 

Beth wyt ti’n ei garu am weithio yn Aberystwyth?

Rwyf wrth fy modd gallu mynd am dro ar lan y môr ar ôl diwrnod yn y gwaith... mae'n help mawr os ydych chi weithiau’n cael diwrnod anodd i fynd am dro ac anadlu awyr iach y môr.

 

Pe bai ti ddim yn dy rôl gyda’r UM... beth fyddet ti’n ei wneud?

Rwyf wrth fy modd yn gwneud fy mhrintiau a chardiau cyfarch fy hun fel anrhegion i ffrindiau neu ar gyfer achlysuron teuluol ... efallai y byddwn yn ddigon dewr i droi hyn yn fusnes bach.

 

Pa ran / rhannau o dy swydd wyt ti’n eu mwynhau fwyaf?

Dwi wrth fy modd bod pob diwrnod yn wahanol... does dim dau ddiwrnod yr un fath.

 

Cyn gweithio yma, oeddet ti wedi cael llawer o gysylltiad ag undeb y myfyrwyr neu grwpiau myfyrwyr?

Fel myfyriwr, doeddwn i ddim yn ymwneud â llawer o weithgaredd undeb myfyrwyr, ar wahân i fod yn rhan o weithgareddau a grwpiau UMCA. Er gwaethaf hyn, mae fy mhrofiad gwaith i gyd wedi bod yn gweithio i fudiadau democrataidd, ac mae'r tebygrwydd rhwng y rhain wedi bod yn ddefnyddiol.

 

Mae UMAber... yn gymuned i fyfyrwyr Aber gwrdd â ffrindiau gydol oes

Nid yw UMAber… yn far

 

Nid yw'r Haf yn 'amser tawel' i Undebau Myfyrwyr... beth wyt ti’n mynd i fod yn brysur yn gweithio arno dros yr Haf? 

Cynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn bennaf... ond gyda ffocws mawr ar gyfathrebiadau ar gyfer y glasfyfyrwyr (h.y. y calendr blynyddol, gwefan-fach-y-glas a gwybodaeth ar y wefan i fyfyrwyr newydd. Hefyd diweddaru a chynnal gwefan UMAber (sy’n cynnwys ambell i olygiad i’n platfformau a gwneud yn siŵr bod ein staff â’r hyfforddiant a mynediad i ddiweddaru’r wefan).

Comments