Sbotolau ar Gwirfoddolwyr Myfyrywr: Freddie Yeates
|
Sut rolau gwirfoddol sydd ganddoch chi? Neu wedi’u mwynhau fwyaf?
|
Dwi’n Gynrychiolydd Academaidd ar gyfer Daearyddiaeth Blwyddyn 1 yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.
|
Pam wyt ti’n gwirfoddoli?
|
Dwi wrth fy modd yn gallu gwneud gwahaniaeth i garfan fawr, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ar lefel uwch a helpu lleddfu problemau y maent yn eu gweld yn eu cyrsiau.
|
Pa foment oedd eich uchafbwynt o fod yn wirfoddolwr/wraig?
|
Roeddwn yn gallu cael cywiro fy amserlen, oherwydd fod 1 diwrnod yr wythnos â 5 darlith yn yr un diwrnod, a 2 ohonynt yn 2 awr o hyd. Roeddwn hefyd yn gallu cywiro’r mater o ddarlithwyr yn dechrau’n gynnar, gan wella’n uniongyrchol sut roedd myfyrwyr yn teimlo am eu darlithoedd.
|
Pa fuddion ydych chi wedi’u hennill fel gwirfoddolwr/wraig?
|
Dwi wedi gallu helpu'r bobl o'm cwmpas. Ac, dwi'n mynychu digwyddiadau Cynrychiolwyr yn unig yn ystod y tymor.
|
At ba rolau gwirfoddol ydych chi’n edrych ymlaen?
|
Dwi'n edrych ymlaen at wneud cais am Swyddog Cyfadran Israddedig y flwyddyn nesaf ar gyfer FELS i wella pethau yn fwy amlwg fyth i fyfyrwyr, a gwneud yn siwr y gallaf wneud bywyd myfyriwr cystal â phosib!
|
Gwirfoddoli Undeb Aberystwyth
|
Os ydych chi am wirfoddoli yn ystod eich amser yma yn Aberystwyth, yna dyma’r lle i chi! Un a ydych chi eisiau gwirfoddoli’n rheolaidd yn y gymuned, diwrnod gweithredu untro neu brosiect myfyriwr; nid oes diffyg cyfleoedd i chi
Gennych chi mae’r dewis o ran y fath o wirfoddoli neu’r amser rydych chi’n rhoi y tu allan o’ch astudiaethau. Ond cewch chi ddewis mwy nag un cyfle gwirfoddol. Po fwyaf rydych chi’n ei wneud, po fwyaf y buddion y byddwch chi’n eu hennill
I ganfod mwy, ewch i: www.umaber.co.uk/gwirfoddoli |