TÎM ABER: UCHAFBWYNTIAU TYMOR 1

welsh
Rated 5/5 (1 person). Log in to rate.

MSAGM:

Cynhaliwyd ein Gwersyllfa Gymru y Glas, yn ogystal â Castaway, mynychodd 25 o aelodau, 11 o Aberystwyth, 2 o Fangor, 11 o Abertawe, 1 yn Annibynnol (aelod annibynnol), mae lluniau i’w cael yma: https://photos.app.goo.gl/DR8a4r4SEUcUTekV


Yr Harriers:

Aeth ein cystadleuaeth gynghrair Draws Gwlad Gogledd Cymru ym Mangor yn dda iawn, cawsom ni lond bws gwennol o redwyr a gorffennodd y Dynion a’r Menywod yn uchel iawn, gan gynnwys cael 2il yn ras y Dynion. Cawsom ein dyrchafu i adran 1 llynedd o’r 2il, ac rydyn ni bellach mewn lle cadarn yn y bwrdd canol yn adran 1. Daw hyn er gwaethaf i ni golli rhai o’n rhedwyr gorau oedd yn y 3edd flwyddyn trwy raddio llynedd. Mae ein cyfryngau wedi tyfu’n fwy ac yn well na’r blynyddoedd diwethaf, gyda thuag 20 o bobl rheolaidd. Cawsom ni adborth da iawn o Wythnos y Glas ac rydyn ni’n parhau i ddenu mwy o aelodau.


Y Tarannau:

Rydyn ni wedi ennill pob un o’n gemau y tymor hwn, ac mae recriwtio a’n cyfryngau yn dod yn eu blaenau’n arbennig. Mae’n gneud i fi deimlo fy mod i’n perthyn i gymuned.


Rygbi’r Dynion:

Cawsom lawer o hwyl yn ‘Nôl i Aber’. Daeth nifer o aelodau a raddiodd yn flaenorol yn ôl ar fyr rybudd a chymryd rhan ochr yn ochr â Rygbi’r Menywod mewn digwyddiad rygbi cyffwrdd. Yn ogystal, enillon ni ein gêm gyntaf y tymor hwn yr wythnos diwethaf yn erbyn Meddygon Caerdydd, oedd yn fuddugoliaeth gyntaf dda i ni. Hefyd, fe wnaethom gynnal sawl noson sobr yn Llwyd Inn yn ystod Cwpan Rygbi’r Byd. A chafodd glasfyfyriwr hat tric yn ei gêm lawn gyntaf.


Myfyrwyr Llafur Aberystwyth:

Cawsom gydweithrediad ag ymgeisydd llafur is-etholiadol ym Mhenparcau. Rydyn ni wedi bod yn ymgysylltu â’r gymuned leol gyda phresenoldeb yn y gwasanaeth coffa. Fe wnaethom newid ein diwrnod cymdeithasol i ddydd Iau ac mae'n gweithio'n well i ni ac i ddeinameg ein cymdeithas.


Marchogaeth Prifysgol Aberystwyth:

Mae ein A-Tîm wrthi’n canolbwyntio ar wella ac mae Mimi Mayer Payne wedi gwneud yn arbennig o dda gan gyrraedd y 5 uchaf ym mhob cystadleuaeth.


Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth (GCA):

At ei gilydd, rydyn ni wedi cyflawni 8 tasg leol, o glirio eithin ym Mhen Dinas i gribinio a chynnal a chadw coed ar ddôl blodau gwyllt yn y Borth. Ymhellach i ffwrdd, fe wnaethom glirio sbriws Sitka ymledol i amddiffyn Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Rhiniog, rhoi help llaw i blanhigion banana, Trwmpedi Angel a phlanhigion trofannol eraill ar gyfer y Ty Gloÿnnod Byw, a chloddio gwreiddiau coed a gwneud sudd afal yng Ngardd Furiog yr Hafod. Rydyn ni wedi cyrraedd 55 o aelodau, sy’n gynnydd o 22% ers yr un cyfnod y llynedd. Oherwydd isetholiad llwyddiannus, am y tro cyntaf yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi llenwi pob swydd pwyllgor. Ers hynny, rydyn ni wedi cael cyfarfod cynhyrchiol i hyfforddi aelodau newydd y pwyllgor a thrafod cynlluniau ar gyfer GCA yn y dyfodol. Mae Rachel, ein swyddog cyhoeddusrwydd newydd, wedi bod yn hyrwyddo ein gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi diweddaru ein hysbysfwrdd yn Edward Lhuyd. Fe wnaeth hi hefyd crymbl anhygoel o afalau ym Mherllan Gogerddan i’w rhannu gyda’n haelodau ar dasg. Mae Cameron, ein swyddog garddio newydd, eisoes wedi helpu rhedeg tasg garddio ac yn gwneud cynlluniau ar gyfer plannu bylbiau a llysiau yn yr ardd gymunedol y tu allan i’r UM. Mae Percy, ein hysgrifennydd cymdeithasol newydd, ochr yn ochr â Theo, sydd newydd ddychwelyd o'r Iseldiroedd, yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol bob Llun, ac maent wedi dechrau trefnu pryd Nadolig a Siôn Corn Cudd. Mewn newyddion arall, mae cyn-aelod GCA, Kathryn, a dyweddi ein gyrrwr bws mini, Tomos, bellach yn gweithio yn y ty pili pala, a braf oedd cael dal i fyny â hi ar y dasg. Yn ogystal, rydyn ni wedi ymwneud fwyfwy â chadwraeth safleoedd bywyd gwyllt lleol diolch i gymorth Alison, uwch ecolegydd Cyngor Sir Ceredigion. Gobeithiwn barhau â’r momentwm yr ydym wedi’i adeiladu ar gyfer gwarchod a gwella’r amgylchedd lleol, gan ddarparu tasgau amrywiol, deniadol a gwerth chweil i’n haelodau am weddill y semester hwn ac i mewn i’r flwyddyn newydd.


CrefftauAber:

Rydyn ni wedi gweld niferoedd da iawn yn dod a chael adborth gwych ar gyfer ein gweithdai crefft. Cawsom tua 45 o bobl i wneud Gemwaith cath gyda chathod Aber. Cynhaliom hefyd weithdy gwneud peli grisial llwyddiannus a chawsom adborth cadarnhaol iawn gan aelodau


Ffrisbi Eithafol:

Rydyn ni wedi cael ymateb da gan aelodau ysbryd y gêm (peth ffrisbi) yn dechrau gweithredu.


Hoci’r Dynion:

Rydyn ni wedi cynnal ein penwythnos blynyddol i gyn-fyfyrwyr ar y penwythnos diwethaf. Yn ystod hyn codwyd dros £250 i elusen sy'n agos iawn at werthoedd y clwb, a'r penwythnos cyfan.


HeicoAber:

Rydyn ni wedi digwyddiad mynydda a chymdeithasol yn llwyddiannus bob wythnos o semester un a chawsom ein cinio Nadolig.


Ysgrifennu Sgriptiau:

Daeth nifer dda iawn i'n digwyddiad llofruddiaeth ddirgel ar y cyd ac fe weithiodd hyn yn dda. Bydd un arall yn semester 2. Mae ein gweithdai Holi ac Ateb wedi bod yn addysgiadol iawn ac yn wych. Mae siaradwyr gwadd allanol a darlithwyr ffilm i gyd wedi gofyn am gael dod yn ôl a gwneud sesiwn arall. Mae'n braf gweld darlithoedd mor agos yn cefnogi ac yn gweithio gyda chymdeithas hyd yn oed pan fyddant wedi cyflawni'n dda iawn eu hunain. Mae'n gyfle unigryw i ddod o hyd i'r wybodaeth hon y tu mewn i'r diwydiant am ddim ac mae wedi bod yn hynod ddiddorol a buddiol i aelodau.


Theatr:

Daeth nifer gwych i'r panto, gan werthu pob un tocyn bron â bod. Cafodd yr holl aelodau a gymerodd ran hwyl fawr ac mae pawb a fynychodd y digwyddiad wedi rhoi adborth cadarnhaol. Mae gennym eisoes aelodau yn bwriadu cofrestru ar gyfer ein perfformiad sydd ar y gweill at dymor dau


Showdance:

Cynhaliom ni ein digwyddiad Codi a Rhoddi a oedd yn gwis tafarn a denwyd nifer dda o bobl. O’r digwyddiad hwn codwyd £72 i’r elusen o’n dewis, Magpie. Fe wnaethom hefyd gynnal ein digwyddiad Gwyl y Celfyddydau ein hunain a aeth yn wych yn gorfod nôl mwy o gadeiriau ar ddau achlysur yn ystod y digwyddiad. Codwyd dros £300 o'r digwyddiad hwn. Cawsom hefyd ein haelodau i gyfrannu bwyd i fanc bwyd lleol. Yn ystod y digwyddiadau RAG hyn codwyd cyfanswm o £500.16!

Comments