Mae cofrestru ar gyfer SUPERTEAMS 2024 ar y gweill! Cewch wneud cais i gymryd rhan o 9am ar 8 Rhagfyr.
Mae’r digwyddiad UMAber drwg-enwog hwn fel arfer yn gwerthu’r tocynnau yn gyflym. Dyma ein ‘Tips Gorau’ ar gofrestru ar gyfer Superteams yn llwyddiannus –
1. Paratoi:
a. Dewiswch enw'ch tîm (gwrthodir enwau amhriodol)
b. Casglwch BOB manylion angenrheidiol gan eich 10 aelod sydd â diddordeb*
c. Penderfynwch pa ddigwyddiad y byddwch chi'n ei OLLWNG ac yn defnyddio’ch JOCER ar ei gyfer*
d. Sicrhewch fod eich ffi gofrestru o £250 yn barod i fynd ar eich cerdyn, gan fod angen talu ymlaen llaw
2. Ar y diwrnod:
a. Gwnewch yn sicr fod sawl aelod yn barod i ennill tîm; peidiwch â chyfrif ar un person yn unig
b. Ffurfiwch gyfeillgarwch â darpar dimau eraill - oherwydd bod gan dimau sawl aelod yn ceisio ennill lle ar yr un pryd, yn aml mae timau'n sicrhau mwy nag un lle, ac felly os nad oes ei angen arnyn nhw eu hunain, efallai y byddan nhw'n barod i ildio hwnnw i chi (a bod disgwyl i chi wneud yr un fath)
c. Ewch i leoliad sydd â chysylltiad rhyngrwyd diogel a chyflym, e.e. campws
Byddwch ag umaber.co.uk/timaber/digwyddiadauallweddol/superteams/ i fyny ar y sgrin yn barod, ac adfywiwch y dudalen yn barhaus o 08:59 ymlaen
d. Os na allwch gael tîm ar unwaith; peidiwch ag anobeithio a daliwch ati i adfywio. Nid yw lleoedd ar gyfer timau’n cael eu sicrhau ar unwaith; cânt eu cadw mewn basgedi nes y telir amdanynt - bob blwyddyn mae gennym leoedd ar gael yn hwyrach yn y dydd yn sgil timau sydd ddim yn talu mewn pryd neu’n gadael i'r cyfle lithro o’u basged!
e. Felly croeswch eich bysedd a bysedd eich traed a gobeithio am y gorau!!
f. Os ydych chi'n ddigon ffodus i fod yn llwyddiannus ... Byddwch yn barod am daith wyllt ym mis Chwefror!
*Gellir dod o hyd i'r holl fanylion angenrheidiol, gwybodaeth am ‘ollwng’ a chwarae’r ‘jocer’ ar ein gwefan