Cymdeithas y Flwyddyn yw'r wobr mae pawb yn eiddgar i'w hennill o fewn Tîm Aber. Fe'i cyflwynir i'r gymdeithas fwyaf llwyddiannus, ymroddgar a gweithredol yn ystod y flwyddyn academaidd. Cafwyd rhai enwebiadau cryf eleni. Un peth a gafodd y panel yn galonogol oedd nifer y cymdeithasau llai o faint a llai adnabyddus a oedd yn cael eu henwebu gyda cheisiadau cryf.
Cymdeithas Gwarchod y Gwenyn (BeeSoc) oedd ein henillydd haeddiannol eleni. Cawsom ein boddi gan enwebiadau a oedd yn canmol y grwp hwn. Roedd pob enwebiad yn cyfeirio at yr amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael i aelodau, y gymuned ffyniannus y maent wedi'i sefydlu, a'r gefnogaeth ysgubol dros achos y mae aelodau'n teimlo mor angerddol yn ei gylch.
“Mae'r gymdeithas hon yn dangos yr hyn y dylai pob cymdeithas fod. Mae'r gymdeithas yn dod â phobl ynghyd i helpu i greu ffrindiau a chwrdd â phobl newydd. Mae'r gymdeithas yn darparu ar gyfer pawb; maen nhw'n cynnal nosweithiau cymdeithasol lle mae pobl yn yfed a rhai lle nad oes alcohol yn rhan o’r drefn. Maen nhw'n gwneud i bawb deimlo bod croeso iddyn nhw, a’u bod yn derbyn gofal. Mae'r gymdeithas hon wedi tyfu'n aruthrol dros y blynyddoedd. Mae'r gymdeithas nid yn unig yn dod â phobl ynghyd, ond mae hefyd yn helpu'r amgylchedd lleol. Dylai'r gymdeithas hon ennill Cymdeithas y Flwyddyn gan eu bod yn dangos yr egwyddorion y dylai cymdeithas eu dangos, ac maen nhw wedi tyfu i fod yn gymdeithas hynod lwyddiannus.” - Enwebydd anhysbys
Mae Cymdeithas y Gwenyn yn gymdeithas gymharol newydd sydd wedi cael effaith ragorol. O'r cychwyn cyntaf yn Ffair y Glas, maen nhw wedi sefydlu eu hunain fel cymdeithas hamddenol, gynhwysol a hwyliog; roeddent yn sefyll allan o’r dorf gyda'u streipiau bywiog a'u hwynebau wedi’u paentio’n lliwgar.
Yn ystod y flwyddyn academaidd maent wedi cynnig profiad unigryw i'w holl aelodau. Byddai aelodau'n aml yn mynd ati i adeiladu cychod gwenyn, yn eu haddurno yn arddull Cymdeithas y Gwenyn, ac yn gwneud gwaith ymarferol i ofalu am y gwenyn a chynhyrchu mêl.
Eleni mae BeeSoc wedi cydweithio gydag eraill ar nifer o'u digwyddiadau a'u gweithgareddau. Maen nhw wedi gweithio gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol gan agor byd menter a busnes i'w haelodau drwy sesiwn 'Bee Your Own Boss' sy’n enw nad oes angen ei gyfieithu! Hyn yn ogystal â gweithio gyda grwpiau myfyrwyr eraill, grwpiau cymunedol lleol a sefydliadau i godi ymwybyddiaeth o’r ffaith bod niferoedd gwenyn yn gostwng yn y DU.
Mae Cymdeithas y Gwenyn yn dod yn fwyfwy adnabyddus am eu gweithgareddau cymdeithasol cynhwysol, croesawgar ac unigryw rheolaidd. Mae'r pwyllgor a'r aelodau wedi cymryd camau sylweddol wrth godi arian ar gyfer eu hachosion elusennol drwy gydol y flwyddyn. Maent wedi canolbwyntio rhai o'u hymdrechion ar elusennau sy'n ymwneud â gwenyn neu’r amgylchedd, fel Ymddiriedolaeth Cadwraeth y Gwenyn, ond maent hefyd wedi canolbwyntio'n helaeth ar elusennau y mae myfyrwyr yn dibynnu arnynt, fel MIND a'r Samariaid.
“Mae’r gymdeithas cadwraeth gwenyn wedi gwneud pethau anhygoel wrth warchod gwenyn, ac mae wedi bod yn gymdeithas hyfryd i fod yn rhan ohoni. Maent yn sicrhau bod pob digwyddiad cymdeithasol yn darparu ar gyfer pawb ac maen nhw’n sicrhau bod pawb yn ddiogel ac yn mwynhau eu hunain! Maen nhw wir yn wych fel cymdeithas, gan wneud fy mlwyddyn yn y brifysgol yn anhygoel”- Enwebydd anhysbys
Mae'n debyg mai'r dasg bwysicaf y mae'r gymdeithas yn ei chyflawni yw cynyddu pwysigrwydd a’r angen am y gwaith hwn. Fel cymdeithas maen nhw'n gofalu am un o rywogaethau mwyaf hanfodol y Ddaear o ran cynaladwyedd a hirhoedledd. Mae gwenyn yn hanfodol i amgylchedd iach ac economi iach. Rydyn ni'n dibynnu arnyn nhw a phryfed eraill i beillio’r rhan fwyaf o’n ffrwythau a'n llysiau. Yr hyn sy’n drist yw’r ffaith bod gwenyn dan fygythiad, a hebddyn nhw mae ein bwyd a'n heconomi dan fygythiad hefyd. Mae'r gymdeithas ar flaen y gad wrth frwydro yn erbyn y dirywiad hwn yn Aberystwyth. Maent yn berchen ar dri chwch gwenyn, ac maent edrych ar eu hôl yn ofalus. Maent hyd yn oed wedi mynd y filltir ychwanegol gan osod strwythur hunangynhaliol yn ariannol ar waith, ynghyd â system o hyfforddi myfyrwyr yn eu hamser hamdden i ddod yn wenynwyr, heb unrhyw gostau iddyn nhw.
Un o’r pethau allweddol a ddaeth i’r amlwg i’r panel oedd, unwaith i'r pandemig ddechrau eu bod nhw wedi bod yn un o'n cymdeithasau mwyaf ymroddedig; roedd angen iddyn nhw edrych ar ôl eu cychod gwenyn o hyn. Maen nhw hefyd wedi mynd ati i ddarparu gweithgareddau i aelodau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl neu'n teimlo'n unig. Maen nhw wedi cynnal amryw o Bartïon Gwylio Netflix ynghyd â nifer o weithgareddau â’r nod o leihau diflastod er mwyn ysbrydoli aelodau i gadw'n actif.
Fel y gallwch weld, mae Cymdeithas y Gwenyn wedi cael blwyddyn anhygoel! Ni fyddai’r holl bethau maent wedi’i gyflawni wedi bod yn bosibl heb ymroddiad aelodau’r pwyllgor a’r diddordeb a ddangoswyd gan holl aelodau’r grwp. Mae'r UM yn edrych ymlaen at weld beth mae BeeSoc yn ei wneud y flwyddyn nesaf, a gobeithiwn eich bod chi hefyd!
Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ganfod mwy am Gymdeithas Gwarchod y Gwenyn yma:
E-bost: scty194@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/9132/
Facebook: @AberBeeConservationSociety
Instagram: @aberystwythbeeconservation