Cyflwynir y wobr am y ‘Cyfraniad Mwyaf gan Gymdeithas Elusennol’ i gymdeithas elusennol lle mae'r aelodau wedi rhoi cryn lawer o'u hamser at eu hachos gydol y flwyddyn, y ogystal â chodi swm sylweddol ar gyfer eu hachos elusennol.
Mae Tickled Pink wedi cael blwyddyn ragorol! Mae nifer ac ansawdd yr enwebiadau a dderbyniwyd yn dyst i hyn. Roedd pob enwebiad yn canmol amrywiaeth y gweithgareddau a gynhaliwyd gan y grwp, ymroddiad a chynwysoldeb y pwyllgor, a'r awyrgylch cyffredinol y mae'r grwp wedi'i greu i ffurfio ei gymuned ffyniannus ei hun.
Mae Tickled Pink yn cynrychioli dwy elusen, CoppaFeel! a Gofal Cancr y Fron - Cymru. Mae CoppaFeel! yn elusen ymwybyddiaeth cancr y fron sy'n bodoli i addysgu ac atgoffa pob person ifanc yn y DU bod gwirio eu bronnau nid yn unig yn hwyl, ond gallai arbed eu bywyd. Gofal Cancr y Fron - Cymru, yw'r cam nesaf; maen nhw yno i unrhyw un sy'n cael ei effeithio gan gancr y fron. Maent yn dod â phobl ynghyd, yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth, ac yn ymgyrchu dros well safonau gofal.
Mae'r grwp wedi cymryd eu rôl mewn codi ymwybyddiaeth o ddifrif. Maent wedi bod yn lledaenu negeseuon cyhoeddus ynghylch cancr y fron ar draws y brifysgol, mewn digwyddiadau cymdeithasol, mewn clybiau nos, mewn tafarndai ac ymhlith grwpiau myfyrwyr. Unrhyw fan y gallwch chi feddwl amdano; maen nhw wedi bod yno! Mae eu cyfryngau cymdeithasol wastad yn llawn gweithgareddau hwyliog a rhyngweithiol, pob un â'r nod o ledaenu ymwybyddiaeth. Maen nhw'n feistri ar fynegi neges ddifrifol mewn ffordd ysgafn. Pan fyddant allan ar y campws, allwch chi mo’u methu nhw, gyda'u bron ENFAWR yn lledaenu ymwybyddiaeth ble bynnag y byddant yn mynd. Mae'r grwp yn dinistrio'r stigma o embaras wrth siarad am y pwnc; maen nhw am sicrhau bod unigolion (yn ddynion a menywod) yn gwirio eu bronnau / cyhyrau’r frest yn rheolaidd.
Mae cynhwysiant wedi bod yn nodwedd allweddol mewn llawer o grwpiau myfyrwyr eleni. Roedd Tickled Pink ar flaen y gad yn hyn o beth gan sicrhau bod pob croeso i bob “bachgen, merch a chyfaill anneuaidd” a’u bod yn cael eu cynnwys, a’u haddysgu ynghylch pob agwedd ar Tickled Pink a’r hyn y maent yn sefyll drosto.
“Mae Tickled Pink hefyd yn gymuned a gychwynnodd, ar ddechrau’r flwyddyn, gyda 4 aelod pwyllgor, glitter a gobaith ac o’r cychwyn cyntaf roeddent yn barod i ymrwymo i'r ymgyrch. O ganlyniad mae’r gymdeithas wedi tyfu ac erbyn hyn mae ganddi bron i 30 aelod gweithredol; maen nhw i gyd yn bobl mor anhygoel (Bechgyn, Merched a Chyfeillion Anneuaidd) ac maen nhw’n wirioneddol yn gweithio'n galed i ledaenu cariad, deunyddiau ac ymwybyddiaeth am fronnau o amgylch y campws a'r dref!” - Enwebydd anhysbys
Yr hyn sy’n rhagorol yw’r ffaith bod y grwp wedi codi dros £2,000 ar gyfer elusennau sy’n gysylltiedig â’r grwp. Mae hyn wedi eu gwneud yn grwp gorau (allan o 60) ar gyfer codi arian ar draws rhwydwaith CoppaFeel! Doedd codi'r arian yma ddim yn dasg hawdd. Cynhaliodd y pwyllgor nifer o ddigwyddiadau cynhwysol ac amrywiol, pob un â gogwydd unigryw Tickled Pink. Cyfeiriwyd yn arbennig at eu Booby Bingo, eu Cwis Mawr Pinc a ddenodd dros 100 o bobl, a'u digwyddiadau cymdeithasol ar nos Fawrth, lle maen nhw'n cwrdd i gymdeithasu a dal i fyny ar y newyddion diweddaraf am fronnau. Mae'r grwp yn enwog ar y campws ac o amgylch y dref am gynnal eu Partïon Glitter a'u Nosweithiau UV mewn clybiau nos lleol. Yn y digwyddiadau hyn maent yn codi cannoedd o bunnoedd i'w helusennau, ond yr un mor hanfodol maent yn dosbarthu deunyddiau i ledaenu eu neges ymhellach.
Eu gweithgaredd codi arian blynyddol mwyaf trawiadol yw eu calendr noeth. Mae'r calendr hwn nid yn unig yn ffordd ychwanegol o fynd ati i godi arian, ond mae'n hyrwyddo positifrwydd y corff i bob myfyriwr. Dros ddiwrnod cyfan ac mewn pedwar lleoliad gwahanol, aethant ati i dynnu’r lluniau ar gyfer y calendr gyda ffotograffydd ac 11 o wahanol gymdeithasau a chlybiau chwaraeon. Cydweithredu ar ei orau!
Yn dilyn y thema cydweithredu fe aethant ati i gynnal nifer o Ysgolion Bronnau. Hynny ydy, maen nhw'n ymuno mewn sesiwn hyfforddi gyda chlwb, ac yn gwneud cyflwyniad ynghylch gwirio am arwyddion a symptomau cancr y fron. Maent wir wedi ehangu eu hallgymorth i ymgysylltu â chymaint o fyfyrwyr â phosibl.
Ymysg ein huchafbwyntiau personol gyda'r grwp oedd eu cymorth gyda’r Her Aber gyntaf erioed. Ynghyd â’r Clwb Dodgeball, cynhaliodd Tickled Pink gêm enfawr o FRON-BÊL. Aeth 18 tîm benben, mewn twrnamaint gyda bron-beli’n gwibio i bob cyfeiriad. Bu Tickled Pink hefyd yn gweithio gyda'r UM ar 'Ddiwrnod Gwisgo Pinc'. Ar y diwrnod hwnnw, gosododd Tickled Pink stondin yn yr UM, ac roedd staff yr UM yn gwisgo pinc i godi ymwybyddiaeth o gancr y fron.
Ni fyddai unrhyw un o'r pethau hyn wedi bod yn bosibl i’w cyflawni heb angerdd aelodau a phwyllgor Tickled Pink. Nid yw ymdrechion y pwyllgor wrth drefnu digwyddiadau wedi mynd yn ddi-sylw. Mae ansawdd ac amrywiaeth yr hyn y maent wedi'i gynnig dros y flwyddyn ddiwethaf wedi'i adlewyrchu yn yr hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn fewnol ac yn allanol. Ni ellir gwadu bod y pwyllgor wedi gweithio'n galed i wneud Tickled Pink yn enw adnabyddus ar draws y campws.
“Mae'r gymdeithas gyfan, ac yn enwedig y pwyllgor, yn gweithio'n galed iawn ac yn rhoi cymaint o'u hamser i drefnu digwyddiadau a nosweithiau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod pawb yn cael amser da wrth godi arian ac ymwybyddiaeth ynghylch cancr y fron. Mae'r pwyllgor i gyd yn eu blwyddyn olaf yn y brifysgol, ond maen nhw'n dal i roi 110% drwy'r amser. Rwy'n credu fod hyn yn wirioneddol gymeradwy, a chredaf eu bod wir yn haeddu'r wobr hon." - Enwebydd anhysbys
Mae pawb yn yr UM am gymryd eiliad i anrhydeddu Sophie Williams, a mynegi ein cydymdeimlad i'w theulu a'i ffrindiau. Sefydlodd Sophie Tickled Pink pan oedd hi’n astudio’r Gyfraith yn Aberystwyth yn ôl yn 2006. Cadwodd mewn cysylltiad rheolaidd â'r grwp, gan ddarparu cefnogaeth barhaus iddynt. Nododd y grwp y gwaith diflino a wnaeth Sophie i sicrhau bod y gymdeithas yn llwyddiant, etifeddiaeth sy’n parhau i fodoli o fewn y grwp. Mae Tickled Pink yn gwneud gwaith anhygoel ymysg ein cymuned myfyrwyr ac ni allwn aros i weld beth maen nhw'n ei wneud nesaf.
Beth am gymryd rhan eich hun? Gallwch ddysgu mwy am Tickled Pink yma:
E-bost: scty249@aber.ac.uk
Gwefan: https://www.umaber.co.uk/organisation/6451/
Facebook: @Abertickledpink
Instagram: @abertickledpink