Undeb Aberystwyth yn Datgan Partneriaeth Newydd Cyffrous gyda Macron

welsh

Mae’n bleser gan Undeb Aber gyhoeddi ein partneriaeth newydd gyda’r cwmni dillad chwaraeon mawr ei fri, Macron. Daw’r bartneriaeth hon yn sgil pleidlais a basiwyd gan y myfyrwyr ac ar adeg gyfleus iawn, a ninnau wedi’n hail-enwi yn Undeb Aber.

O ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd, Macron fydd cyflenwr swyddogol dillad a nwyddau chwaraeon ein holl glybiau chwaraeon a’n cymdeithasau. Nod y bartneriaeth hon yw gwella’r ansawdd a’r ystod o ddillad chwaraeon ar gael i’n myfyrwyr, gan sicrhau bod ein timoedd a’n haelodau yn gallu manteisio ar offer uchel ei ansawdd a chwaethus.

Dywed Jamie Sylvester o Macron Store Caerdydd “Mae’n bleser ac yn fraint cael gweithio gydag Undeb Aberystwyth fel cyflenwr offer swyddogol dros y 5 mlynedd nesaf. Rydym wrth ein boddau estyn ein portffolio addysg ac yn edrych ymlaen at gynhyrchu nwyddau o ansawdd uchel i fyfyrwyr a staff ac hoffem ni fachu ar y cyfle hwn i groesawu timau Prifysgol Aberystwyth i’r Teulu Macron.

Wrth sôn am y bartneriaeth newydd cyffrous, meddai Tiff McWilliams, Swyddog Cyfleoedd Undeb Aber:

“yn sgil y bleidlais gan yr holl glybiau, dyma benderfyniad y myfyrwyr ac rydyn ni nawr yn edrych ymlaen yn fawr at weithio’n agos gyda Macron a Thîm Aber wrth drosglwyddo’r awenau. Ein nod yw sicrhau bod profiad pob cymdeithas a chlwb yn un didrafferth wrth newid cyflenwr dillad chwaraeon. Er mwyn sicrhau bod pawb yn cael y nwyddau iawn, byddwn ni’n gweithio ar y cyd gydag arweinwyr clybiau i ateb eu hanghenion a’u dewisiadau penodol. Os oes angen unrhyw help yn ystod y newid, mae croeso i chi gysylltu.”

Timau TîmAber, dilynwch ni i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar sut y gallwch brynu y dillad chwaraeon Macron newydd. Fe gredwn ni y bydd y bartneriaeth hon o fudd mawr i’n corff myfyrwyr ac y gwnaiff gyfrannu at feithrin diwylliant chwaraeon mwy llwyddiannus a bywiog fyth yn Aberystwyth.

I gael manylion pellach, ewch i’n gwefan neu gysylltu ag Undeb Aber.